Rydym yn gofyn i Brif Weinidog nesaf Cymru fynd i’r afael â’r nifer gyson uchel o bobl sy’n cael eu gorfodi i fyw mewn llety dros dro.
Yn y blynyddoedd diwethaf, Eluned Morgan AS, mae nifer y bobl sy'n byw mewn llety dros dro wedi codi o chwe mil i fwy nag un mil ar ddeg. Fel y gwyddoch mae Cymru yng nghanol argyfwng tai, ac i lawer o bobl yng Nghymru mae eu dyfodol a’u cyfleoedd yn gyfyngedig oherwydd nad oes ganddynt fynediad at le diogel a sefydlog i’w alw’n gartref. Mae byw yn rhywle dros dro yn rhy aml yn golygu byw mewn amodau cyfyng, diflas sy'n anaddas i anghenion pobl.
Ein cyfrifoldeb ar y cyd yw gwneud yn siŵr ein bod yn lleihau’n sylweddol nifer y bobl sy’n cael eu gorfodi i fyw mewn llety dros dro a dyna pam yr ydym yn galw ar Brif Weinidog Cymru i weithredu yn awr.
Cliciwch yma i ddarllen ein llythyr agored.
Annwyl Eluned Morgan AS,
Llongyfarchiadau ar ddod yn Brif Weinidog Cymru. Fel y gwyddoch mae Cymru ar hyn o bryd yng nghanol argyfwng tai ac i lawer o bobl yng Nghymru, mae eu dyfodol a’u cyfleoedd yn gyfyngedig oherwydd nad oes ganddynt fynediad at le diogel a sefydlog i’w alw’n gartref.
Mae’r ddibyniaeth gynyddol ar lety dros dro yn un enghraifft o hyn, ac ar hyn o bryd mae 11,591 o bobl – gan gynnwys mwy na 3,000 o blant – yn gaeth mewn lleoedd o’r fath. Mae’r rhif hwn wedi wedi bron a dyblu yn ystod tymor y Senedd hon ac mae’n golygu bod miloedd o bobl a theuluoedd yn byw mewn llety sy’n aml yn anaddas, fel llety gwely a brecwast a gwestai.
Yn ystod tri mis cyntaf 2024, cafodd gwefan Shelter Cymru dros 13,000 o ymweliadau ar gyngor ynghylch llety dros dro. Hefyd, trwy adroddiadau gweithwyr Achos Cyfraith Tai Shelter Cymru, mae’n amlwg pa mor heriol yw hi i bobl ddod o hyd i gartref addas y gallant ei fforddio, a pha mor hawdd yw hi iddynt ddod yn ddigartref.
Gwelir maint yr argyfwng hwn hefyd yn y ffaith bod awdurdodau lleol dan bwysau cynyddol yn eu hymdrechion i ddod o hyd i lety dros dro a’i gynnal. Golyga hyn bod llawer o deuluoedd yn wynebu'r ansefydlogrwydd ychwanegol o beidio â gwybod pa mor ‘dros dro’ y gallai eu cartref fod hyd yn oed.
Gwyddom y byddwch yn cytuno na all y sefyllfa hon barhau, a bod angen ymrwymiad ar Gymru i leihau nifer y bobl mewn llety dros dro a chynyddu argaeledd cartrefi parhaol.
Fel trigolion Cymru, rydym yn galw arnoch chi, i wneud yr ymrwymiad hwn fel bod y niferoedd mewn llety dros dro wedi lleihau erbyn diwedd tymor y Senedd hon, a mwy o bobl yn cael eu hamddiffyn rhag digartrefedd yn y lle cyntaf neu wedi symud i gartref hirdymor diogel, sicr a fforddiadwy.
Er mwyn dod â'r argyfwng tai i ben, mae angen dull traws-lywodraethol.
Fel Prif Weinidog gallwch gyflawni hyn, a dyna pam yr ydym yn galw arnoch i wneud yr ymrwymiad hwn i leihau nifer yr unigolion a theuluoedd mewn llety dros dro.
Mae gan bobl yr hawl i gartref diogel ac mae’r frwydr dros gartref yn frwydr i atal digartrefedd, i ddod o hyd i, ac i gadw cartref i bobl, ac i’w helpu i reoli eu bywydau eu hunain. Drwy eich arweinyddiaeth, gallwn ddefnyddio’r holl adnoddau sydd gennym yng Nghymru i fynd i’r afael â digartrefedd ac i roi terfyn ar yr argyfwng tai sy’n cael effaith ddinistriol ar bobl a chymdeithas.
Llofnodwch ein llythyr agored heddiw ac anfonwch neges glir at y Prif Weinidog i flaenoriaethu i fynd i’r afael â’r argyfwng tai yn ystod tymor y Senedd hwn.