Fy Nghartref Sir Ddinbych – Gwnewch Gais ar-lein

Mae Fy Nghartref Sir Ddinbych yn brosiect ymyrraeth gynnar sy’n anelu at weithio ‘i fyny’r afon’ gan gynnig cefnogaeth ac arweiniad i unrhyw un yn Sir Ddinbych, a allai fod yn wynebu brwydrau neu drafferthion yn ymwneud â’u cartref.

Gallwn gefnogi gydag ystod eang o anghenion a allai, o’u gadael heb eu rheoli, ddechrau mynd allan o reolaeth, gan roi’r preswylydd yn y pen draw mewn perygl o ddod yn ddigartref. Drwy ddarparu’r cymorth a’r gefnogaeth angenrheidiol, ar y cyfle cyntaf posibl, gallwn atal pobl rhag gorfod meddwl am ddigartrefedd.

Mae cymorth ar gael ar ystod eang o faterion megis tai, cyllid, budd-daliadau, cyflogaeth, addysg a hyfforddiant, lles, iechyd a pherthnasoedd. Peidiwch ag oedi. Cysylltwch, a gadewch i ni eich helpu.