Rwy'n addo Pleidleisio dros Gartref.

Mae Cymru yng nghanol argyfwng tai - argyfwng sy'n gweld bron i 11,000 o bobl yn ddigartref ac yn gaeth mewn llety dros dro, rhentwyr preifat yn wynebu rhenti sy'n gynyddol anfforddiadwy, a 170,000 o bobl ar restrau aros am gartref cymdeithasol.

Y tu ôl i'r ystadegau hyn mae cannoedd o filoedd o bobl, pob un â'i stori ei hun am sut mae'r argyfwng tai wedi effeithio arnynt. 

Digon yw digon.

Cartrefi yw sylfeini ein bywydau. Mae cartref diogel a sefydlog yn hanfodol i adeiladu bywyd hapus ac iach. 

Rwy'n llofnodi'r addewid hwn i roi gwybod i bob ymgeisydd sy'n ymgeisio yn etholiad nesaf y Senedd fod yn rhaid i gartrefi fod yn flaenoriaeth.

Mae newid yn bosibl. Mae dod â'r argyfwng tai i ben yn bosibl. Mae angen gwleidyddion a fydd yn gweithredu arnom. Mi fyddaf yn Pleidleisio dros Gartref.