Helpwch ni i ddileu gwahaniaethu yn y sector rhentu preifat, am byth.
Ddylai neb gael eu hamddifadu o’r hawl i gartref diogel o ganlyniad i wahaniaethu. Eto i gyd, yn ein hymchwil diweddar, gwnaeth 75,000 o bobl yng Nghymu adrodd am achosion o wahaniaethu pan yn ceisio dod o hyd i’w cartref cyfredol. A hyn er gwaetha’r ffaith ei bod yn anghyfreithlon i wahaniaethu yn erbyn unrhywun sy’n edrych i rentu yng Nghymru.
Os ydych wedi profi gwahaniaethu yn eich herbyn, yna gallwch adrodd am eich profiad wrthym ni a fe wnawn ni basio hyn ymlaen i Rhentu Doeth Cymru, a fydd yn gweithredu yn erbyn landlordiaid ac asiantaethau sydd wedi troseddu.
Gall pobl yng Nghymru gael eu gwahaniaethu yn eu herbyn mewn nifer o ffyrdd, fel:
- Eiddo sy’n cael eu hysbysebu fel ‘dim DSS’, ‘dim budd-daliadau’ neu ‘gweithwyr proffesiynol yn unig’.
- Cael eich gwrthod rhag gweld eiddo neu rentu eiddo oherwydd eich rhywedd, rhywioldeb, ethnigrwydd neu oherwydd anabledd.
Os ydych yn credu bod rhywun wedi gwahaniaethu yn eich herbyn, rydym am glywed wrthych. Ac os ydych wedi gweld unrhyw hysbysebion neu glywed am unrhyw arferion sy’n gwahaniaethu, hyd yn oed os nad ydynt wedi effeithio arnoch chi yn bersonol, rhowch wybod i ni.
Llenwch y ffurflen fer hon a dywedwch wrthym am eich profiad, gallwch wneud hyn yn gyfrinachol os ydych yn dymuno. Mae’n hanfodol ein bod yn dod o hyd i gymaint o achosion o wahaniaethu mewn tai rhent ag sy’n bosibl, fel y gallwn adrodd amdanynt i’r awdurdodau perthnasol a gweithredu ar hyn. Mae Rhentu Doeth Cymru yn dweud y byddant yn gweithredu mewn rhyw ffordd ym mhob achos, gan gynnwys rhybuddion ysgrifenedig a gofyniad i landlordiaid ac asiantaethau i gymryd hyfforddiant di-wahaniaethu
Gyda’n gilydd, gallwn ddod â gwahaniaethu i ben yn nhai Cymru